Gwasanaeth am ddim a chyfrinachol yng Nghymru i unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan hunanladdiad
Mae’r Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol (NALS) yn wasanaeth cyfrinachol am ddim i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan hunanladdiad. Mae’n darparu gwasanaeth cymorth cyfrinachol am ddim ac mae ar gael i unigolion a theuluoedd o bob oed sy’n byw yng Nghymru. Gellir ei ddarparu dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo.
Gall ein tîm sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig gynnig lle diogel ac empathig i siarad a chael eich clywed. Byddant yn eich helpu i ymdrin â’r emosiynau niferus a chymhleth a deimlir ar ôl hunanladdiad. Gall y sioc gychwynnol fod yn ddinistriol ac yn llethol, ond cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun.
Gall ein tîm eich cefnogi yn y dyddiau neu’r wythnosau yn syth ar ôl hunanladdiad, neu yn y misoedd, neu hyd yn oed flynyddoedd, ar ôl eich colled. Gallwn gynnig cymorth gyda phethau ymarferol hefyd fel y cwest, problemau ariannol, yr heddlu neu gefnogi eraill rydych chi’n gwybod eu bod wedi cael eu heffeithio. Gallwn eich helpu i drefnu angladd hyd yn oed.
Mae gan hunanladdiad effaith bell ac agos, gan effeithio ar fwy na theulu agos yn unig. Gallwch fanteisio ar ein gwasanaeth hefyd os ydych chi’n ffrind, cydweithiwr, cymydog neu dyst.
Beth yw’r broses?
Gallwch gyfeirio’ch hun yn hawdd at y gwasanaeth drwy ein ffurflen ar-lein, ein rhif rhadffôn, neu e-bost.
Byddwch yn derbyn galwad o fewn 24 awr gan un o’n Swyddogion Cyswllt hyfforddedig.
Bydd ein Swyddog Cyswllt yn cwblhau asesiad cyfannol o’r cymorth y gallai fod ei angen arnoch chi a byddant yn llunio cynllun cymorth gyda chi.
Gall ein Swyddog Cyswllt eich cyfeirio (gyda’ch caniatâd) at wasanaethau cymorth eraill a fyddai’n fuddiol i’ch cefnogi.
Bydd ein Swyddog Cyswllt yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd ac yn eich cefnogi cyhyd ag y bydd ei angen arnoch chi.
Os bydd cymorth wedi dod i ben, a’ch bod angen cymorth eto yn y dyfodol, gallwch ailgysylltu â’ch swyddog cyswllt a enwir neu’r Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol.
Oes gennych chi fwy o gwestiynau?
Sut Allwn Ni Helpu
Cefnogaeth Emosiynol
Bydd y gwasanaeth yn cynnig swyddog cymorth penodol i gadw mewn cysylltiad â chi a’ch cefnogi’n emosiynol drwy gydol eich taith.
Cwnsela
Gall y gwasanaeth ddarparu mynediad at gwnsela a therapi trawma.
Cyngor Proffesiynol
Mynediad i wybodaeth ynghylch y gwasanaeth a sut y gall eich cefnogi yn eich rôl broffesiynol.
Cymorth Ymarferol
Gallwn gynnig cymorth gyda materion ymarferol fel trefniadau angladd, materion cyllid a chefnogi plant.
Rhwydwaith Aml-Asiantaeth
Mae’r grŵp cymorth cyfoedion yn grŵp cymorth cymheiriaid ledled Cymru y gellir ei fynychu’n bersonol yn Abertawe neu ar-lein.
Problemau Ariannol
Gall ein swyddogion cymorth Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol eich cynorthwyo gydag unrhyw broblemau ariannol.
Rydyn Ni Wedi Ein Lleoli Ledled Cymru
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
- Wrecsam