Amdanom Ni

Mae Sefydliad Jac Lewis wedi cefnogi dros 900 o unigolion sydd wedi wynebu profedigaeth neu eu heffeithio gan hunanladdiad yng Nghymru ers 2021.

Mae ein Gwasanaeth Cymorth Profedigaeth Drwy Hunanladdiad Cymru yn cael ei lywio gan Safonau’r Gwasanaeth Profedigaeth ac mae wedi rhoi cyfoeth o brofiad a gwybodaeth i ni wrth gefnogi’r rhai sydd wedi wynebu profedigaeth drwy hunanladdiad.

Mae darparu’r gwasanaethau hyn wedi datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth Sefydliad Jac Lewis o’r hyn sydd ei angen ar bobl sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad ac mae hyn wedi cyfrannu at y ffordd rydyn ni wedi datblygu’r gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol. Mae’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu yn cael eu harwain gan bobl ac yn seiliedig ar werthoedd. Gofynnir i unigolion sy’n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth am adborth ar y gwasanaethau y maen nhw wedi’u defnyddio i lywio datblygiad a darpariaeth gwasanaethau.

Cyfarfod â’r Tîm

Mae gan Sefydliad Jac Lewis dîm o therapyddion seicolegol sydd â phrofiad o weithio gyda’r rhai y mae hunanladdiad wedi effeithio arnyn nhw ac mae’n cynnwys therapyddion chwarae, therapyddion plant a phobl ifanc, therapyddion teulu, cwnselwyr, therapyddion ymddygiad gwybyddol a therapyddion EMDR.

Mae gan bob therapydd gymwysterau llawn, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac mae’n derbyn goruchwyliaeth glinigol fisol.

Geraint Thomas - Cydlynydd Gwasanaeth Cyswllt Ymgynghorol Cenedlaethol

Geraint Thomas

Cydlynydd Gwasanaeth Cyswllt Ymgynghorol Cenedlaethol

Wedi gweithio yn y Gwasanaeth Sifil am 31 mlynedd mewn amrywiaeth o rolau arweinydd tîm, arbenigol a rheolaethol, cyn dewis ymuno â sefydliad Jac Lewis fel cydlynydd Gwasanaeth Cyswllt Ymgynghorol Cenedlaethol, yn haf 2024.

Rwy’n dod â profiad fel myfyriwr graddedig mewn Seicoleg, gwrandawyr samariad am 13 mlynedd, arweinydd / swyddog achub mynydd y bannau gorllewinol am 6 blynedd, Warden parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog y rhan fwyaf o benwythnosau, ac fel arweinydd mynydd cymwysedig cymdeithas hyfforddiant (addysgu, arwain grwpiau a hyrwyddo buddion iechyd) yn fy amser hamdden. Rwy’n credu mewn gwneud y gorau o’r holl amser sydd ar gael i helpu’r rhai dan anfantais mewn cymdeithas a chefais fy nymostwng i dderbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2020.

Rwy’n ymdrechu i gefnogi pawb rwy’n dod ar eu traws, beth bynnag fo’u hamgylchiadau, yn fy rôl bresennol.

Deborah Owen - Gweinyddwr Gwasanaeth Cyswllt Ymgynghorol Cenedlaethol

Deborah Owen

Gweinyddwr Gwasanaeth Cyswllt Ymgynghorol Cenedlaethol

Ymunais â thîm NALS o gefndir o fewn Gofal Sylfaenol y GIG, lle’r oeddwn yn ysgrifennydd ymarfer ar gyfer meddygfa yng Nghlwstwr Bae Abertawe.

Yn ystod fy 12 mlynedd yn y feddygfa, cefais fewnwelediad a phrofiad amhrisiadwy mewn prosesau a’r adnoddau sydd ar gael a’r anawsterau a all effeithio ar ddarparu gwasanaethau i’r rhai sydd angen cymorth.

Fy nod yw helpu i leddfu a chynhyrchu hygyrchedd a gwasanaeth dyfeisgar sydd ar gael ledled Cymru.

Gwyn Augustus - Prif Swyddog Gwasanaeth Syswllt Ymgynghorol Cenedlaethol

Gwyn Augustus

Prif Swyddog Gwasanaeth Syswllt Ymgynghorol Cenedlaethol

Rwyf wedi rheoli sawl prosiect ar gyfer y Groes Goch Brydeinig a Chymdeithas Alzheimer yn Ne-orllewin Cymru. Bûm hefyd yn gweithio fel trefnydd angladdau yn ardal Cross Hands am dros 12 mlynedd.

Yn fwyaf diweddar, bûm yn Swyddog Cymorth Profedigaeth ac yn Dechnegydd Postmortem gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe cyn trosglwyddo i arwain y prosiect NALS.

Mae fy mhrofiad helaeth wedi fy arfogi â mewnwelediad dwfn i gefnogi pobl ar adegau o argyfwng a deall anghenion teuluoedd mewn profedigaeth.

Sut Rydyn Ni Wedi Helpu

900

o unigolion sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad.

800

o unigolion wedi hunangyfeirio at y gwasanaeth yn ystod y deuddeng mis diwethaf.

4,500

o unigolion wedi’u cefnogi ers i’r sefydliad ddechrau yn 2019.

Adborth

Dyma rai o’r adborth rydym wedi derbyn gan fuddiolwyr.
“Cefais fy ngalw yn gyflym, roedd fel angel tywysol, roedd yn braf siarad â rhywun a ddeallai mi.”
“Nid wyf yn siŵr y gallwn fod wedi gweithredu heb y gwasanaeth bryd hynny.”
“Mae’r cymorth wedi bod yn llinell achub, cadw i fynd pan fyddai wedi bod mor hawdd cael ein suddo.”

Cysylltwch â ni am help

Mae’r Gwasanaeth cyswllt ymgynghorol cenedlaethol yn wasanaeth cymorth emosiynol ac ymarferol, cyfrinachol a rhad ac am ddim i unrhyw un yng Nghymru a effeithiwyd gan hunanladdiad.

Cysylltwch â Ni