Telerau Defnyddio

Defnydd a Ganiateir

Rhoddir caniatâd i ymwelwyr â’r Gwasanaeth Cyswllt Ymgynghorol Cenedlaethol i gael mynediad at ddeunyddiau cyhoeddedig (cynnwys) yn ddarostyngedig i’r telerau hyn. Trwy ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i fod yn rhwym wrth y telerau defnyddio hyn.

Er y gellir cael mynediad at gynnwys, ei lawrlwytho a’i ddefnyddio at ddibenion personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil preifat, astudio neu ddefnydd mewnol); ni ddylai ymwelwyr atgynhyrchu neu ailgyhoeddi unrhyw ddeunydd o’r wefan hon heb ganiatâd
gan y wefan / perchennog hawlfraint.

Ni ddylid defnyddio delweddau, logos a graffeg a ddefnyddir ar y safle hwn heb gael caniatâd gan y perchennog hawlfraint.

Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol sy’n ymwneud â’r wefan hon yn perthyn i Sefydliad Jac Lewis, fel y sefydliad darparwr gwasanaeth a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, ac, lle bo’n berthnasol, cysylltiadau trydydd parti.

Gwybodaeth Bersonol

Pan fyddwch yn cyflwyno data adnabyddadwy yn wirfoddol ar y wefan hon, defnyddir y wybodaeth a gyflwynir yn unig i ymateb i’ch ymholiadau ac at ei diben bwriadedig. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr gwe gyda thrydydd partïon.

Amddiffyn rhag Firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunyddiau am firysau. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn rhedeg rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd a lawrlwythir o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, tarfu neu ddifrod i’ch data neu system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd a ddeilliodd o’r wefan hon.

Ymwadiad

Cymerir gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Serch hynny, darperir cynnwys at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig, ac rydych yn ei ddefnyddio ar eich menter eich hun. Ni fyddwn yn cael ein dal yn atebol am unrhyw niwed neu golled sy’n deillio o unrhyw weithred neu esgeulustod o ganlyniad i ddefnyddio gwybodaeth ar y wefan hon.

Gwefannau Allanol

Nid yw Sefydliad Jac Lewis yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd ynghylch y cynnwys nac am ganlyniadau dilyn unrhyw gyngor sydd wedi’i gynnwys ar y safleoedd hynny. Ni ddylid cymryd rhestru fel ardystiad o unrhyw fath.

Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio trwy’r amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig na newid cyfeiriad gwefan.

Mae Sefydliad Jac Lewis yn cadw’r hawl i wrthod neu dynnu cysylltiadau i unrhyw wefan.

Diwygiadau yn y Dyfodol

Bydd newidiadau dilynol i’r telerau hyn ar gael ar y wefan hon.