Mae NALS Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr trugarog i weithio ochr yn ochr â’n tîm, gan gefnogi unigolion a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad ledled Cymru.
Gall colli rhywun i hunanladdiad fod yn brofiad llethol, ac mae ein gwasanaeth yn cynnig lle diogel, tosturiol a chyfrinachol i unigolion, teuluoedd, ffrindiau a chymunedau yn sgil colled o’r fath. Rydym yn cerdded ochr yn ochr â phobl yn y dyddiau cyntaf yn dilyn profedigaeth, yn ogystal â misoedd a blynyddoedd yn ddiweddarach, gan ddarparu cadarnhad emosiynol a chymorth ymarferol hanfodol fel ei gilydd.
Fel gwirfoddolwr, gallech ein cefnogi mewn dwy brif ffordd:
- Cymorth emosiynol – bod yn bresenoldeb trugarog, di-farn dros y ffôn, drwy alwad fideo, neu wyneb yn wyneb, gan wrando ar y rhai sy’n galaru.
- Cymorth ymarferol – helpu teuluoedd drwy dasgau cymhleth a llawn straen, megis cysylltu â’r heddlu, materion ariannol, cwestau’r crwner, neu drefnu angladd.
Os oes gennych amser a thosturi i’w cynnig, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â ni drwy ein ffurflen ymholiad cyffredinol i gael gwybod mwy.
Mae NALS yn wasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a ddarperir gan Sefydliad Jac Lewis. Rhif Elusen Gofrestredig 1185246.


